Pwyllgor Senedd y Dyfodol
Crynodeb o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024
1. Trafododd aelodau o’r Pwyllgor eu barn gychwynnol ar sut y dylai Pwyllgor Senedd y Dyfodol (“y Pwyllgor”) ymdrin â’i gylch gwaith, gyda’r bwriad o ddychwelyd ar 14 Tachwedd i gwblhau ei raglen waith a’i ddull gweithredu.
2. O ran yr agweddau ymarferol ar weithrediad y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i:
§ ganiatáu i Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol yn y Senedd ddod i gyfarfodydd y Pwyllgor, yn amodol ar gytundeb y Cadeirydd;
§ caniatáu i un swyddog o Lywodraeth Cymru arsylwi ar ran yr aelod o’r pwyllgor sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru, ac un swyddog plaid i arsylwi ar ran pob aelod o’r Pwyllgor o’r Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru;
§ cyhoeddi nodyn o drafodion y Pwyllgor yn dilyn pob cyfarfod pwyllgor; a
§ chyfarfod bob pythefnos oni nodir bod angen defnyddio slotiau pwyllgor wrth gefn.
3. Cytunodd Cynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu nodyn yn egluro’r trefniadau sydd ar waith mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU i gefnogi Aelodau wrth iddynt ddrafftio gwelliannau a Biliau Aelod (preifat).